Byddai merched sydd yn cyflawni mân droseddau yn elwa mwy o gael cefnogaeth yn y gymuned yn hytrach na chael eu hanfon i garchar medd corff sy’n cynrychioli ynadon yng Nghymru a Lloegr.

Yn ôl y ffigyrau diweddaraf a gafodd eu casglu gan Cymru Fyw mae nifer y merched yng Nghymru sydd yn cael dedfryd carchar o chwe mis neu lai wedi cynyddu ymysg yr holl heddluoedd heblaw Heddlu Dyfed-Powys.

Ond yn ôl John Bache, cadeirydd Cymdeithas yr Ynadon does dim llawer o fudd mewn dedfrydau byr.

Fe gynyddodd y nifer o fenywod a gafodd ddedfryd o garchar o chwe mis neu lai o 320 yn 2011 i 458 yn 2016.

Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn dweud eu bod yn buddsoddi mewn gwell gwasanaethau aml-asiantaeth.

Ffigyrau

Heddlu Gogledd Cymru welodd y cynnydd mwyaf yn nifer y merched a gafodd ddedfryd carchar o chwe mis neu lai ymhlith holl luoedd Lloegr a Chymru er bod y cyfanswm yn fach.

35 oedd y ffigwr yn 2011 ac 88 yn 2016, cynnydd o 151%.

Heddlu De Cymru oedd â’r niferoedd mwyaf o ferched wnaeth dderbyn dedfryd o chwe mis neu lai – roedd cynnydd o 197 yn 2011 i 291 yn 2016.

Yng Ngwent gwelwyd y ffigyrau yn codi o 49 yn 2011 i 59 yn 2016 tra bod rhai Dyfed Powys wedi lleihau o 39 yn 2011 i 20 yn 2016.

Cafodd 54% o’r holl ddedfrydau yng Nghymru eu rhoi am y drosedd o ddwyn. Golygodd hyn bod 246 o ferched wedi eu carcharu.

Troseddau sydd ddim yn ymwneud â gyrru oedd yr ail gategori mwyaf cyffredin gyda 91 o fenywod yn cael eu rhoi mewn cell.

Mae achosion fel hyn fel arfer yn cael eu clywed mewn llys ynadon – pethau fel peidio talu trwydded deledu neu achosi difrod.

Dywedodd cadeirydd Cymdeithas yr Ynadon, John Bache eu bod yn ceisio osgoi rhoi dedfrydau byr pan fo’n bosib.

“Y gred yw bod pobl angen bod yn y carchar am gyfnod hir cyn eu bod nhw yn gallu ymwneud gyda rhaglenni fel rhai i drin problemau cyffuriau.

“Ond y broblem yw os nad oes opsiwn arall, a’u bod yn cwrdd â’r trothwy er mwyn cael eu carcharu, yna mae’n rhaid i ni wneud hynny. Pe byddai yna opsiynau eraill addas yna yn amlwg byddai yn well gennym ni y rhain.”

“Bydden ni yn hoffi gweld gwell darpariaeth o wasanaethau yn y gymuned, yn enwedig ar gyfer menywod, fel ein bod yn medru osgoi dedfryd carchar sef rhywbeth y mae pawb yn ceisio gwneud os yn bosib.

Atal carchar

Mae’r elusen Safer Wales yn cydweithio gyda Heddlu De Cymru ar wasanaeth sydd yn ceisio atal merched sy’n cyflawni mân droseddau rhag gorfod ymwneud gyda’r system gyfiawnder troseddol.

Os ydyn nhw yn cwrdd â’r meini prawf ac yn cyfaddef y drosedd, mae rhai merched yn cael eu cyfeirio at raglenni cefnogaeth er mwyn delio gyda’r rhesymau pam eu bod yn troseddu er enghraifft, cam-drin domestig neu am eu bod yn gaeth i gyffuriau.

Mae hyn hefyd yn golygu eu bod yn osgoi cael record droseddol.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Mae prif weithredwr Safer Wales, Bernie Bowen-Thompson yn dweud bod dedfrydau byr yn cael effaith anghyfartal ar fenywod o gymharu gyda dynion.

“Gallai’r fenyw golli ei chartref. Os oes ganddi ddyledion, mae’r rheini yn gallu dwysau,” meddai.

“Yn aml mae ‘na blant sydd yn cael eu gwahanu am mai merched yn aml yw’r prif ofalwyr ac mae effaith hynny ar y plentyn a’i dyfodol yn gallu bod yn anferth.”

Ychwanegodd bod nifer o swyddi ddim eisiau cyflogi person sydd gyda record droseddol ac felly y gall cyfnod dan glo effeithio ar eu gobaith i gael gwaith yn y dyfodol.

Effaith y cynllun

  • Mae mwy na 350 o ferched wedi defnyddio’r cynllun yn Ne Cymru ers Chwefror 2016;
  • O fewn 6 mis iddynt ddechrau’r cynllun doedd mwy na 90% ddim wedi eu harestio eto;
  • Mae cynlluniau tebyg ar gael yn holl luoedd heddlu Cymru.

Dywedodd Y Weinyddiaeth Gyfiawnder: “Rydyn ni yn gwybod bod gan ferched sy’n troseddu broblemau cymhleth yn aml. Dyna pam ein bod yn buddsoddi mewn gwell gwasanaethau aml-asiantaeth ym mhob ardal, ac yn gweithio ar strategaeth i wella canlyniadau i fenywod yn y carchar ac yn y gymuned.”

Doedd y Swyddfa Farnwrol ddim eisiau gwneud sylw am y cynnydd yn y niferoedd.