Mae’r Athro Siwan Davies, o adran Ddaearyddiaeth Prifysgol Abertawe, wedi gadael Cymru fach am antur am fis i’r Ynys Las.

Mewn tymheredd a fydd yn amrywio rhwng -20°C a -10°C, a gyda’r haul yn disgleirio am 24 awr y dydd, bydd yr arbenigwr newid hinsawdd a’i chydweithwyr yn drilio’n ddwfn i mewn i’r llen iâ.

Bydd eu harbrofion yn helpu i gael gwell syniad o hanes hinsawdd yn yr ardal dros y 25,000 o flynyddoedd diwethaf, a beth allai ddigwydd yno yn y dyfodol.

Mae’r prosiect EastGrip yn cynnwys gwyddonwyr o ledled byd, ac yn cael ei arwain gan Ganolfan Iâ a Hinsawdd Denmarc.

Nid dyma’r tro cyntaf i Siwan deithio i’r Ynys Las. Aeth yno yn 2016 ar gyfer y rhaglen S4C, Her yr Hinsawdd.

Dyma erthygl a ysgrifennodd i BBC Cymru Fyw i gydfynd â’r gyfres, ble mae hi’n holi beth yn union yw’r her sy’n ein wynebu yma yng Nghymru wrth i’r hinsawdd newid.


Newidiadau mawr ar droed

Athro Prifysgol ydw i ac ymchwil ar newid hinsawdd sy’n mynd â fy mryd i. Rwy’n gweithio yn bennaf mewn labordy, gyda meicrosgôp wrth law, ond yn aml yn cael cyfle i fynd ar waith maes cyffrous mewn gwledydd anghysbell i gasglu samplau iâ a mwd. Y cyfan er mwyn casglu tystiolaeth ar natur a sbardun newidiadau naturiol y gorffennol.

Ond dros y misoedd diwethaf dwi ‘di bod ar daith newid hinsawdd tra gwahanol – taith i gymunedau sydd eisoes yn cael eu heffeithio gan newid hinsawdd. Newid hinsawdd sydd yn cael ei achosi gan effaith pobl. Yn fy ngwaith bob dydd, rwy’n aml yn esbonio’r dystiolaeth wyddonol i gynulleidifaoedd amrywiol er mwyn dangos fod patrwm y newidiadau heddiw yn wahanol iawn i’r hyn sydd wedi digwydd yn y gorffennol. Ond nid wyf erioed wedi cael y cyfle i gyfarfod â’r bobl sy’n gorfod ymateb heddiw i fygythiadau difrifol newid hinsawdd.

Peryglon

Yr Ynys Las yw cychwyn y daith, lle mae’r llen iâ yn toddi ar raddfa frawychus o gyflym. Dim ond 56,000 o bobl sy’n byw yn y wlad hon a hynny ar hyd ymlyon yr iâ. Siaradais â nifer o ffermwyr oedd yn ei gweld hi’n anodd i dyfu digon o wair i’w defaid oherwydd sychder, mae nifer wedi newid i dyfu llysiau.

Ond wrth i’r iâ grebachu mae ‘na bosibiliadau newydd o ran mwyngloddio a masnachu a nifer yn edrych yn obeithiol i’r dyfodol. Er hynny, mae rhai yn sylweddoli bod y symptomau yn dechrau yn yr Ynys Las a bod yr iâ yn toddi yn beryg i weddill y byd.

Ac wrth i lefel y môr godi, mae ynysoedd isel y Maldives, miloedd o filltiroedd i ffwrdd, yn debygol o ddiflannu o dan y don. Dyma i chi ynysoedd a chymunedau sydd wir mewn perygl.

Er bod yna weithredu ar lefel llywodraethol, ymateb y cymunedau llai wnaeth yr argraff fwyaf arna i. Cefais fraint o aros ymysg pobl Ynys Kudafari – cymuned fechan sydd wedi dod at ei gilydd yn wirfoddol i amddiffyn a diogelu eu hynys. Y bobl ifanc yn bennaf oedd yn arwain y gwaith o blannu coed ac adeiladu basgedi cwrel; dyfodol eu plant nhw sydd yn y fantol.

Rhaid canmol blaengarwch S4C a Chwmni Telesgop am rhoi llwyfan i newid hinsawdd ac am adrodd y stori drwy lygad gwyddonydd. Yn rhy aml mae newid hinsawdd yn boddi mewn iaith arbenigol a thechnegol ond mae’r gyfres yma yn portreadu storiau’r bobl. Lluniau, delweddau a straeon o’r fath sy’n codi proffil yr her a sicrhau ymrwymiad ar draws ein cymunedau.

Mae’r daith wedi bod yn fythgofiadwy ac agweddau positif pobl yr Ynys Las a’r Maldives yn ysbrydoledig. Ac yn rhaglen olaf y gyfres cawn gipolwg ar brosiectau cyffrous yng Nghymru i ddatblygu ffynhonellau ynni gwyrdd.

Ond mae’r her o’n blaenau yn enfawr.


Gallwch ddilyn antur Siwan ar ei chyfrif Twitter – @siwanmdavies