Dylai bod gan Lywodraeth Cymru fwy o lais wrth fynd i’r afael â’r trafferthion sy’n wynebu carchardai a charcharorion o Gymru, yn ôl gwaith ymchwil newydd.

Daw hynny wrth i ffigyrau ddangos bod dros draean y carcharorion o Gymru yn cael eu cadw yn Lloegr.

Yn ôl awdur y gwaith ymchwil, Roger Jones dylai’r “atebion gael eu creu yng Nghymru” gan fod gan y Cynulliad gyfrifoldeb dros sawl agwedd o’r gwasanaeth yn barod.

Dyma yw’r tro cyntaf i wybodaeth yn benodol am y sefyllfa carchardai yng Nghymru gael ei gasglu ynghyd mewn adroddiad, gafodd ei gyhoeddi ddydd Mawrth gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd.

Mae’r adroddiad hefyd yn nodi cynnydd mawr yn nifer y carcharorion sy’n hunan niweidio, ac mewn ymosodiadau ar staff.

Dywedodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder, eu bod nhw’n cymryd “camau brys” i fynd i’r afael â’r problemau hunain niweidio, a’u bod nhw wedi penodi miloedd yn rhagor o swyddogion carchar.

Y darganfyddiadau

Mae pum carchar i ddynion yng Nghymru, ac erbyn diwedd mis Ebrill 2018 roedd 4,291 o dan glo ynddynt.

Yn ôl Mr Jones, er bod nifer y llefydd mewn carchardai wedi cynyddu ers 2010 mae 39% o garcharorion o Gymru yn dal i gael eu cadw mewn carchardai yn Lloegr.

Yn 2017, roedd carcharorion o Gymru yn cael eu cadw mewn 108 o wahanol garchardai, ac roedd 28 o Gymry mewn carchar ar Ynys Wyth.

Er mwyn mynd i’r afael â’r diffyg llefydd fe wnaeth y Swyddfa Gartref agor Carchar y Berwyn ger Wrecsam yn 2017, sydd yn gallu gofalu am garcharorion categori B a C.

Mae gan Garchar y Berwyn y gallu i gartrefu 2,200 o garcharorion – 999 oedd yno erbyn diwedd Ebrill 2018.

Os yw’r carchar yn cyrraedd ei chapasiti, hi fyddai’r carchar fwyaf poblog yn y DU.

Mae’r gwaith ymchwil hefyd yn dangos bod nifer y carcharorion o Loegr sydd wedi’i lleoli yng Nghymru wedi mwy na dyblu ers i Garchar Berwyn agor ei drysau, ac erbyn diwedd mis Mawrth 2018 roedd chwarter yr holl garcharorion yng Nghymru yn dod o Loegr.

Does dim carchar i fenywod yng Nghymru, felly mae’r holl garcharorion benywaidd o Gymru yn cael eu cadw mewn carchardai yn Lloegr.

Ar gyfartaledd mae menywod yn cael eu cadw 101 milltir o’u cartrefi, o’i gymharu â 53 o filltiroedd ar gyfartaledd i ddynion o Gymru.

Roedd bron i hanner y plant o Gymru oedd yn cael eu cadw dan glo yn byw mewn canolfannau yn Lloegr.

Problemau ‘unigryw’ Cymru

Mae’r adroddiad yn canolbwyntio’n bennaf ar ddiogelwch o fewn y carchardai.

Ynddo mae’n nodi bod pum carcharor y dydd ar gyfartaledd yn hunan niweidio, a bod y raddfa llawer yn uwch o’i gymharu â charchardai yn Lloegr.

Mae’r gwaith ymchwil hefyd yn dangos bod un ymosodiad bob dydd ar aelod o staff, ar gyfartaledd, a bod nifer yr ymosodiadau yn 2017 saith gwaith yn fwy nac yr oedd yn 2011.

Roedd mwy o ddigwyddiadau treisgar yng Ngharchar y Parc ger Pen-y-bont ar Ogwr rhwng 2016 a 2017 na mewn unrhyw garchar arall yng Nghymru a Lloegr.

Yn ei gasgliad mae Roger Jones yn dweud bod gan Gymru “broblemau penodol ac unigryw” ac mae’n galw ar y Weinyddiaeth Gyfiawnder i gadw at eu haddewid yn 2017 i sicrhau fod y system o ryddhau data sy’n benodol i Gymru yn cael ei hwyluso.

Mae hefyd yn cydnabod bod sawl cwestiwn pwysig i’w hateb ynglŷn ag atebolrwydd gwleidyddol y system garchardai mewn gwlad ddatganoledig.

“Tra bod y cyfrifoldeb o daclo nifer o’r pynciau sydd wedi cael eu hamlinellu yn un i weinidogion Llywodraeth Prydain yn Whitehall, mae’r dylanwad sydd gan weinidogion yng Nghymru dros les ac iechyd carcharorion, taclo camdriniaeth cyffuriau, gwarchod plant, addysg o fewn y carchar a hyrwyddo’r iaith Gymraeg, yn dangos y gallai, ac y dylai, yr atebion gael eu creu yng Nghymru,” meddai.

Mewn datganiad, dywedodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder: “Mae’r Ysgrifennydd Cyfiawnder wedi dweud yn glir bod nifer yr achosion o hunan niweidio o fewn ein carchardai yn rhy uchel a dyna pam rydyn ni’n cymryd camau brys i fynd i’r afael â hyn.

“Rydyn ni wedi recriwtio dros 3,000 o swyddogion carchar newydd ar draws y DU yn yr 18 mis diwethaf er mwyn gwella diogelwch ac er mwyn ceisio cynorthwyo troseddwyr.

“Mae agosatrwydd at y cartref yn cael ei ystyried pan mae’r penderfyniad yn cael ei wneud i ble mae carcharor yn mynd ond rhaid hefyd edrych ar hyd y ddedfryd, y drosedd dan sylw a chapasiti’r carchar.”